Ganwyd a magwyd Emyr ym mhentref Felindre ger Abertawe. Cafodd ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gynradd Felindre ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Wedi gadel yr ysgol mi aeth i weithio yn y DVLA yn Nhreforus, Abertawe. Erbyn hyn mae Emyr wedi ymgartrefi yn Castle Fraser ger Aberdeen.
Yn 1992, cychwynodd ar gwrs BA Dyniaethau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gan astudio Astudiaethau Theatr a'r Gymraeg fel pynciau craidd. Ar ôl graddio yn 1995, aeth ymlaen i gwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion . Yn ei flwyddyn gyntaf, ar ôl gadel y coleg, mi weithiodd Emyr fel Swyddog Datblygu Cynorthwyol i Urdd Gobaith Cymru, Athro Cyflenwi ynghyd a gwaith fel actor llawrydd.
Ymunodd Emyr a Chwmni Theatr Powys yn 1997 fel Actor/Athro llawn amser. Wedi chwe mlynedd o weithio ar gynhyrchiadau Theatr mewn Addysg, Theatr Gymunedol a gweithio mewn perthynas agos gyda Chwmni Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys (MPYT) mi ddychwelodd Emyr unwaith eto i fyd yr actor llawrydd.
Erbyn hyn mae Emyr yn wyneb cyfarwydd i'r ystod eang o wylwyr S4C. I rai mae'n gyfarwydd trwy'i bortread o Rhydian yn rhaglen Rownd a Rownd (Ffilmiau'r Nant), i eraill yn fwy cyfarwydd fel DI Lewis, Pobol y Cwm (BBC Cymru) ac i'r plant yn adnabyddus fel Jaci Soch, Jac Do a Daf Dafad ym Mhentre Bach (Sianco).
Mae hefyd yn gyfarwydd fel llais radio ac yn mwynhau gweithio trwy'r cyfrwng yma. Yn 2007 bu'n gweithio'n agos iawn gydag Aled P Jones ar Dal y Lein, Gym Pob Dim, Dial a Dyddiadur 1941 i Radio Cymru.
Erbyn hyn mae wedi gweithio i Theatr Iolo,Clwyd Theatr Cymru, Arad Goch,Theatr Powys, Cwmni Theatr Mega a Chwmni Theatr Chrysalis.
Emyr was born and bred in Felindre near Swansea. He received his education through the medium of Welsh at Felindre Primary School and Ysgol Gyfun Ystalyfera. He started his adult life working at the DVLA, Morriston, Swansea. Emyr has now settled in Castle Fraser, Aberdeenshire.
In 1992, he began a BA Humanities degree at Trinity College, Carmarthen and studied Theatre Studies and Welsh as core subjects. After graduating in 1995, he went on to complete his Postgraduate Certificate in Education. In his first year, after leaving Trinity Emyr worked as an Assistant Development Officer for Urdd Gobaith Cymru, a Supply Teacher and a Freelance Actor.
In 1997 Emyr joined Theatr Powys as a Resident Actor. After six years of working on Theatre in Education and Community Theatre productions and a close working relationship with Mid Powys Youth Theatre(MPYT) Emyr returned to the world of the Freelance Actor.
Emyr is a well known face to the diverse viewers of S4C. To some he is better known for his portrayal of Rhydian in the popular series Rownd a Rownd (Ffilmiau'r Nant), to others he is best known as DI Lewis, Pobol y Cwm (BBC Wales) and the young viewers would recognise him as Jaci Soch, Jac Do and Daf Dafad in Pentre Bach (Sianco).
He is also a familiar radio voice. In 2007 he worked closely with Aled P Jones on Dal y Lein, Gym Pob Dim, Dial and Dyddlyfr 1941 for Radio Cymru.
Emyr has worked for Clwyd Theatr Cymru, Arad Goch, Theatr Powys, Theatr Iolo, Mega Theatr Company and Chrysalis Theatre Company.
MWNCI AR DÂN / BURNING MONKEY gan Sera Moore Williams